Gwŷr Harlech

Drink for Wales!

We haven’t got a video for this hymn yet, either in Cymraeg or in English. If you know a choir who would like to showcase their skills here, all they have to do is get someone to video them and either send the video to us (details here), or just upload it to YouTube and send us the link. If we get more than one, we’ll choose the best and give links to all the rest…:-)

Wele goelcerth wen yn fflamio
A thafodau tân yn bloeddio
Ar i’r dewrion ddod i daro
Unwaith eto’n un
Gan fanllefau tywysogion
Llais gelynion, trwst arfogion
A charlamiad y marchogion
Craig ar graig a gryn.

Arfon byth ni orfydd
Cenir yn dragywydd
Cymru fydd fel Cymru fu
Yn glodfawr ym mysg gwledydd.
Yng ngwyn oleuni’r goelcerth acw
Tros wefusau Cymro’n marw
Annibyniaeth sydd yn galw
Am ei dewraf ddyn.

Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid
Harlech! Harlech! cwyd i’w herlid
Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid
Yn rhoi nerth i ni.

Wele Gymru a’i byddinoedd
Yn ymdywallt o’r mynyddoedd!
Rhuthrant fel rhaeadrau dyfroedd
Llamant fel y lli!

Llwyddiant i’n marchogion
Rwystro gledd yr estron!
Gwybod yn ei galon gaiff
Fel bratha cleddyf Brython
Y cledd yn erbyn cledd a chwery
Dur yn erbyn dur a dery
Wele faner Gwalia’i fyny
Rhyddid aiff â hi!

Click here for English version.

Drink for Wales!